Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – Llais Cynghorau Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’r 22 cyngor yng Nghymru’n aelodau o CLlLC ac mae’r 3 awdurdod tân ac achub a’r 3 awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

 

Rydym ni’n credu mai’r syniadau sy’n newid bywydau pobl, yw’r rhai sy’n digwydd yn lleol

Mae cymunedau ar eu gorau pan maent yn teimlo eu bod wedi cysylltu â’u cynghorau trwy ddemocratiaeth leol. Trwy gefnogi, hwyluso a chyflawni’r cysylltiadau hyn, gallwn ddatblygu democratiaeth leol fywiog sy’n caniatáu i gymunedau cynaliadwy ffynnu.

 

Prif nod y Gymdeithas yw hyrwyddo, diogelu, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau cynghorau yng Nghymru.

 

Mae hyn yn golygu:

• Hyrwyddo rôl ac amlygrwydd cynghorwyr ac arweinwyr cynghorau

• Sicrhau disgresiwn lleol mwyaf mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol

• Cefnogi a sicrhau cyllid cynaliadwy a hirdymor i gynghorau

• Hybu gwelliant o dan arweiniad sector

• Annog democratiaeth leol fywiog, hybu mwy o amrywiaeth

• Cefnogi cynghorau i reoli eu gweithlu yn effeithiol.

 

Cyd-destun

Bydd y pwyllgor yn ymwybodol o’r Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ar 5 Mai.  Mae gan hynny oblygiadau i’r cyflwyniad hwn gan nad oes gan CLlLC unrhyw Lefarwyr Gwleidyddol mewn lle nes i’r cynghorau sy’n aelodau o’r Gymdeithas bennu eu Harweinyddiaeth, a nes bydd CLlLC wedi cynnal ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 24 Mehefin.

 

Mae hyn yn golygu nad yw’r cyflwyniad hwn wedi cael yr ardystiad gwleidyddol arferol ac na fydd CLlLC yn gallu darparu Llefarydd gwleidyddol i roi tystiolaeth ar lafar ar 9 Mehefin.

Dylid nodi hefyd, bod CLlLC yn chwarae ról gyfyngedig mewn materion cynllunio polisi ac nid yw fel arfer yn cymryd rhan mewn materion gweithredol o fewn Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) ac nid yw’n darparu arweiniad na chasglu data / gwybodaeth benodol ar y mater penodol hwn.

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – Llais Cynghorau Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’r 22 cyngor yng Nghymru’n aelodau o CLlLC ac mae’r 3 awdurdod tân ac achub a’r 3 awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

 

Rydym ni’n credu mai’r syniadau sy’n newid bywydau pobl, yw’r rhai sy’n digwydd yn lleol

Mae cymunedau ar eu gorau pan maent yn teimlo eu bod wedi cysylltu â’u cynghorau trwy ddemocratiaeth leol. Trwy gefnogi, hwyluso a chyflawni’r cysylltiadau hyn, gallwn ddatblygu democratiaeth leol fywiog sy’n caniatáu i gymunedau cynaliadwy ffynnu.

 

Prif nod y Gymdeithas yw hyrwyddo, diogelu, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau cynghorau yng Nghymru.

 

Mae hyn yn golygu:

• Hyrwyddo rôl ac amlygrwydd cynghorwyr ac arweinwyr cynghorau

• Sicrhau disgresiwn lleol mwyaf mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol

• Cefnogi a sicrhau cyllid cynaliadwy a hirdymor i gynghorau

• Hybu gwelliant o dan arweiniad sector

• Annog democratiaeth leol fywiog, hybu mwy o amrywiaeth

• Cefnogi cynghorau i reoli eu gweithlu yn effeithiol.

 

Cyd-destun

Bydd y pwyllgor yn ymwybodol o’r Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ar 5 Mai.  Mae gan hynny oblygiadau i’r cyflwyniad hwn gan iddo gael ei gynnal yn ystod cyfnod yr ethohliad ac ni fydd gan CLlLC unrhyw Lefarwyr Gwleidyddol mewn lle nes i’r cynghorau sy’n aelodau o’r Gymdeithas bennu eu Harweinyddiaeth, a nes bydd CLlLC wedi cynnal ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 24 Mehefin.

 

Darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr

 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei groesawu yn gyffredinol gan CCLlau, fodd bynnag, mae yna heriau yn parhau o ran gwneud safleoedd teithiol ac yn arbennig safleoedd preswyl yn fwy priodol yn ddiwylliannol i anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr. 

 

Mae ACLlau wedi amlygu’r ‘camgymhariad’ sy’n bodoli’n aml rhwng ble byddai cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn dymuno byw a ble mae canllawiau yn dweud y dylai safleoedd gael eu datblygu i fodloni safonau Llywodraeth Cymru.  Mewn nifer o amgylchiadau, mae hyn wedi arwain at safleoedd presennol yn derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, ac mae graddfa araf trosiant llain wedi golygu bod nifer o Sipsiwn, Roma a Theithwyr ifanc wedi methu symud allan o garafan/trelar eu teulu, neu y bydd angen gwahanu unedau teuluol dros ardal ddaearyddol ehangach i ganfod llety priodol.  

 

Mae’r defnydd cynyddol o wasanaethau cyngor cyn-cynllunio wedi hwyluso ymgysylltu rhwng awdurdod lleol a chymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr ac mae hefyd wedi helpu nifer o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar draws Cymru i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sut mae’r system gynllunio yn gweithio, a ble gall cymeradwyaeth ar gyfer caniatâd cynllunio fod yn heriol. Mae adborth yn awgrymu bod cyngor, eiriolaeth a gwasanaethau cefnogi, gyda chynghorau a thrwy bartneriaid fel Teithio Ymlaen a Theithwyr Sipsi Cymru yn hanfodol i gefnogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n ystyried prynu tir preifat neu gyflwyno ceisiadau cynllunio.

 

Mae Llywodraeth Cymru, drwy’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a gyhoeddwyd yn 2021 wedi amlinellu nod “bod llety diogel, diwylliannol priodol yn angenrheidiol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau ac i fynd i’r afael â diffyg darpariaeth safle ac ansawdd gwael llety Sipsi a Theithwyr yng Nghymru.” Drwy’r Cynllun, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i ‘adolygu’r polisi cyllid presennol ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac asesu ei effeithiolrwydd, gyda golwg ar gynnal peilot ychwanegol neu ffyrdd newydd o gyllido darpariaeth safle, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer safleoedd preifat …[ac]… ailddrafftio’r Canllawiau Safleoedd i sicrhau bod dyluniad a lleoliad anghenion cymunedau yn cael eu hadlewyrchu’n well.” Mae hyn yn cael ei groesawu gan fod gwiriadau cydymffurfio blynyddol yn helpu i sicrhau bod GTAA yn cael eu gweithredu, fodd bynnag, gall y canllawiau egluro ac annog mwy o gysondeb o amgylch system cyfrif carafanau ar-lein a diffiniad o wersylloedd tymor byr a hirdymor.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i groesawu cefnogaeth i awdurdodau lleol unigol ac yn rhanbarthol, o amgylch darparu safleoedd teithiol yng Ngogledd a De Cymru. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnig rhwydwaith cenedlaethol o ddarpariaeth drosiannol i hwyluso bywyd teithiol, gan roi ystyriaeth ar gyfer aros drwy drafodaeth, fel sy’n briodol o fewn 5 mlynedd.  Mae’r cynigion hyn yn cael eu croesawu, fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen cyflymu’r amserlenni, yn benodol y ‘rhwydwaith o ddarpariaeth teithiol’, o ystyried goblygiadau disgwyliedig Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd (gweler isod).

 

 

Effaith Covid

Mae’r pwyllgor yn ymwybodol o effaith Covid ar wasanaethau awdurdodau lleol. Mae’r anhawster o ran cynnal gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori statudol wedi golygu bod nifer o Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) wedi’u seibio gan na fyddai’r cynlluniau’n cael eu hystyried yn gadarn mewn ymchwiliad. Er nad oes gennym unrhyw dystiolaeth benodol, ymddengys yn debygol y bydd y maes gwaith hwn wedi cael ei effeithio o ran darparu safleoedd ar gyfer Teithwyr Sipsi a Roma.

 

Ymgysylltu

Fel yr amlygwyd yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2 flynedd yn ôl yn sgil adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru i wasanaethau cynllunio, mae cael y cyhoedd i ymgysylltu yn gyffredinol â’r system gynllunio yn dal i fod yn her. Yn naturiol mae gan y cyhoedd ehangach ddiffyg gwybodaeth am rôl a phwrpas cynllunio, beth mae CDLlau a Chynlluniau Datblygu Strategol (CDSau) yn ei wneud, a beth mae Dyfodol Cymru yn ei olygu i fywydau pobl.

 

Tra bod llawer o awdurdodau cynllunio lleol wedi cymryd camau rhagweithiol i ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan gynnwys cyngor a chefnogaeth cyn-cynllunio, mae yna hefyd ddiffyg dealltwriaeth o’r broses CDLl a’r CDS o fewn adrannau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr hefyd.   Yn aml, mae anghydfod cynllunio a gorfodaeth sydd weithiau yn codi rhwng cymunedau lleol, awdurdodau cynllunio a rhai grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gallu tanseilio perthynas ac yn gallu arwain at deimladau o ddiffyg ymddiriedaeth.    

 

Yn wir, mae natur proses y CDLl yn golygu bod llawer iawn o waith  casglu tystiolaeth ar ddechrau’r broses, cyfosod polisi cenedlaethol mewn amgylchiadau lleol ac ystod o ofynion statudol. Prin iawn yw’r ymgysylltu â’r cyhoedd pan gynhyrchir polisïau / strategaethau drafft nes iddi ddod yn amlwg beth fydd yr effaith ar eu hardal leol a’u bywydau. Eto, mae hyn yn ddealladwy ond yn aml mae’n magu rhwystredigaeth ynglŷn â’r gallu i ddylanwadu ar y canlyniad ar y cam hwn yn y broses.

 

Mae’r cyhoedd yn aml yn canolbwyntio ar yr effaith ar eu cymuned ac maent yn rhwystredig oherwydd bod y system gynllunio hefyd yn anelu at ddiwallu anghenion / materion ehangach ar sail sirol. Mae’n amlwg hefyd bod gan wahanol randdeiliaid wahanol ddyheadau a’u bod yn ceisio gwahanol ganlyniadau y mae’n rhaid i’r ACLl geisio eu cydbwyso ag amrywiaeth o dystiolaeth ac ystyriaethau perthnasol. Yn aml mae hyn yn arwain at anfodlonrwydd nad yw’r ACLl yn mynd i’r afael â phryderon penodol yn briodol pan fo mewn gwirionedd yn gorfod pwyso amryw o faterion a gofynion deddfwriaethol.

 

Yr her yma yw ceisio canfod ffordd o ymgysylltu’n ystyrlon â’r cyhoedd ehangach ynglŷn â materion sydd fel mater o drefn yn hynod bwysig iddynt, ar bwynt pan fo mwy o ddylanwad ar y  canlyniadau posibl, a gwneud hynny mewn ffyrdd sy’n ymgysylltu â holl sectorau cymunedau ac nid yn unig grwpiau buddiant sy’n cael digon o adnoddau ac sydd wedi’u trefnu’n dda . Mae hon yn her y bydd angen arbenigrwydd newydd ac adnoddau ychwanegol ar ei chyfer ac nid yw’r rheiny ar gael ar lefel genedlaethol na lleol. Mae cyfleoedd newydd yn ymddangos wrth i’r cysyniad o greu lleoedd wneud effaith cynllunio yn rhywbeth gwir i’r cyhoedd ac mae’n bosibl y bydd yr adnoddau a fydd yn dechrau cronni i ddarparu CDSau yn annog mwy o bobl i rannu ymarfer nodedig.  Fodd bynnag, dylid nodi y bydd llawer o’r arbenigedd hwn sy’n angenrheidiol ar gyfer CDSau ar lefel ranbarthol yn dod o ACLlau a fydd yn gostwng eu galluogrwydd ymhellach.

 

Mae CDSau hefyd wedi cael eu nodi fel modd o weithio’n drawsffiniol ar ddarpariaethau Sipsiwn a Theithwyr, felly efallai y bydd yn rhaid aros nes bod camau allweddol y gwaith paratoi hwnnw ar y cynllun wedi dechrau cyn y gellir asesu pa mor effeithiol yw dull gweithredu rhanbarthol.

 

Cynhwysedd a Sgiliau

Un mater a drafodir yn rheolaidd yng Nghymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru ac a godir yn aml gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru yw cynhwysedd a sgiliau. Eto, gwnaeth adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn glir bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn adnoddau ACLlau ers 2008. Nid yw hyn yn rhywbeth y mae cynghorau wedi’i wneud yn ysgafn, ond mae’r angen i gadw gwasanaethau hanfodol y rheng flaen yn erbyn cefnlen o gyllidebau sy’n gostwng yn gyffredinol, wedi arwain at hynny.

 

Mae tâl ac amodau cymharol fwy ffafriol yn y sector preifat wedi arwain hefyd at all-lif o gynllunwyr mwy profiadol. Mae’n amlwg fod morâl ymysg cynllunwyr y sector cyhoeddus yn isel oherwydd yn aml maent yn wynebu ymosodiadau personol  ar eu proffesiynoldeb a’u huniondeb.

 

Mae Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru (POSW) yn awyddus i archwilio potensial prentisiaethau mewn ACLlau er mwyn caniatáu i fwy o staff hyfforddedig lifo trwy’r sefydliad, efallai gyda’r potensial i gael profiad gwaith ar draws y sector cyhoeddus o fewn LlC, o fewn CBCau ac ACLlau. Byddai strwythur gyrfaol mwy diffiniedig a datblygiad cynyddol hefyd yn arwain at ddargadw mwy o arbenigedd yn y sector cyhoeddus. Yn gysylltiedig â hyn, mae’r angen i sicrhau fod y fframwaith hyfforddi ar gyfer cynllunwyr yn aros yn berthnasol i Gymru.

 

Bydd yr her hon yn tyfu wrth i’r system ymwahanu o Loegr dros amser. Byddai angen datblygu hyn ymhellach er mwyn sicrhau fod darparwyr hyfforddiant am gymryd rhan a bod y drefn ariannu trwy’r ardoll brentisiaethau yn caniatáu hyn. Os ddim, byddai ffynhonnell ariannu arall yn ofynnol.

 

Fodd bynnag, mae ACLl hefyd wedi amlygu pa mor ddefnyddiol yw sefydliadau trydydd parti fel Teithio Ymlaen, neu swyddog cyswllt Sipsi, Roma a Theithwyr penodedig i ddarparu cyngor a chefnogaeth i bontio’r gallu a’r bwlch sgiliau sy’n bodoli wrth weithio o fewn y gymuned Sipsi, Roma a Theithwyr.  

 

Materion Ariannu

Mae ariannu gwasanaethau cynllunio lleol wedi bod yn bwnc dadl ers peth amser.  Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith i bennu beth fyddai’r cysyniad o ‘adfer costau llawn’ yn ei olygu o ran ffioedd cynllunio. Er na ddylai ffioedd cynllunio dalu am y system gynllunio gyfan oherwydd bod pawb yn elwa o elfen gynllunio strategol y gwasanaeth, mae’n glir o’r gwaith hwn nad yw’r incwm o ffioedd cynllunio yn dod yn agos at dalu costau’r system rheoli datblygu yn y rhan fwyaf o ACLlau.

 

Mae hyn hefyd yn golygu fod ACLlau yn ddiamddiffyn mewn dirywiad economaidd fel y gwelwyd ar ôl 2008, lle mae ceisiadau sydd â ffioedd yn gostwng ac felly mae gostyngiad mewn incwm, sy’n arwain at chwyddo unrhyw doriadau. Wrth gwrs, mae’n rhaid i wasanaethau brofi eu bod yn effeithlon ac yn effeithiol fel rhan o’r ddadl hon. Ymddengys  y bydd unrhyw aneffeithlonrwydd nawr yn deillio o dan-ariannu yn hytrach nag ymarfer gwastraffus.

 

Sefyllfa CLlLC yw, nes bo strwythur ffioedd yn cael ei gyflwyno sy’n adlewyrchu costau llawn darparu’r gwasanaeth i ymgeiswyr, yna bydd problemau’n bodoli o hyd. Fel y deallwn, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynd i’r afael â’r mater hwn ar hyn o bryd, ond mae angen deddfwriaeth sylfaenol. Mantais arall yn gysylltiedig â’r newid hwn yw y byddai’n caniatáu ar gyfer cynnydd blynyddol systematig mewn ffioedd yn unol â chwyddiant.

 

Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn cynnig bod Llywodraeth Cymru, o fewn 3 blynedd yn cynnal peilot o ffyrdd ychwanegol neu newydd o gyllido darpariaeth safle parhaol ac archwilio’r potensial ar gyfer cynllun rhentu cartrefi symudol a gynhelir drwy dai cymdeithasol er mwyn gwella ansawdd a chost darpariaeth rhentu yng Nghymru.

 

Archwilio’r CDLl drafft mewn Ymchwiliad

Dull sylweddol o gadw cydbwysedd yn y system CDLl yw’r adolygiad annibynnol o’r cynllun drafft cyn y gellir ei gymeradwyo. Fel mae’r llawlyfr datblygu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn datgan;

 

Rôl yr Arolygydd penodedig yw cynnal asesiad annibynnol o gadernid cyffredinol y cynllun a’i fod yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer ei baratoi. Nid rôl yr Arolygydd yw gwella’r CDLl, ond yn hytrach i wneud argymhellion i sicrhau ei fod yn gadarn. Mae hyn yn golygu ymdrin â’r prif faterion sy’n mynd at wraidd y CDLl ac nid edrych ar fanylion y cynllun oni bai fod hynny’n angenrheidiol i ddod i gasgliad ynghylch cadernid y Cynllun.

 

O ganlyniad, dylai’r broses hon hefyd fod yn gyfle i adolygu’r math o gwestiynau sydd wedi’u codi gan y pwyllgor, a gallai fod yn fuddiol clywed barn Arolygiaeth Gynllunio (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru (PEDW)) ynglŷn â sut y byddent yn trin y materion hyn mewn Ymchwiliad.

 

Ar lety teithiol yn benodol, mae ACLlau wedi amlygu bod heriau yn parhau wrth adolygu a chydlynu llety teithiol ar lefel ranbarthol, gan fod dyraniad safleoedd yn parhau ar lefel CDLl. Mae’r cyfnodau adolygu gwahanol o fewn rhanbarth yn golygu bod darpariaeth llety teithiol yn anodd os nad yw’n amser i un awdurdod adolygu eu cynllun am nifer o flynyddoedd.

 

Mae dyraniad safle ar raddfa leol hefyd yn gallu golygu bod safleoedd yn cael eu lleoli yn agos ac ni fyddai hyn o fantais i’r defnyddiwr na’r defnydd cynaliadwy o adnoddau.    

 

 

Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022

Mae CLlLC yn cadw mewn cysylltiad â’r Gymdeithas Llywodraeth Leol ynglŷn â’r ddeddfwriaeth hon yn y DU. Mae’n amlwg fod goblygiadau arwyddocaol ar gyfer unrhyw fath o brotest / ymgynulliad ond hefyd potensial iddo gael ei ddefnyddio mewn amryw o amgylchiadau eraill.

 

Mae’r gyfraith newydd yn caniatáu i uwch swyddogion yr heddlu roi cyfarwyddiadau sy’n gosod amodau ar y rheiny sy’n trefnu neu’n cymryd rhan mewn naill ai gorymdaith neu gynulliad statig y mae’r heddlu’n penderfynu sy’n angenrheidiol i atal “anhrefn, difrod, amhariad, effaith neu fygythiad”.

 

Mae’r diffiniad o  ‘amhariad difrifol ar fywyd y gymuned’ yn amrywio’n eang ac fe allai arwain at ganlyniadau anfwriadol. Fel unrhyw ddeddfwriaeth, nes iddi gael ei phrofi’n llawn yn y llysoedd, mae’n anodd rhagweld yr amrywiaeth o faterion a allai godi ond mae’n bosibl y gallai fod yn berthnasol i’r adolygiad hwn.

 

Fodd bynnag, mae swyddogion ACLl wedi awgrymu y bydd y Bil, os bydd yn cael ei ddeddfu yn golygu goblygiadau sylweddol i Sipsiwn, Roma a Theithwyr a bydd yn effeithio ar berthynas awdurdodau lleol gyda Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn arbennig cynnal asesiadau lles ac ymgysylltu gyda, cynghori a chefnogi deilwyr gwersylloedd diawdurdod a all fod yn fwy heriol os yw pobl yn ofni canlyniadau tresmasu yn drosedd neu’r heddlu ac awdurdodau lleol yn newid rôl gorfodi. Bydd y Bil yn annog awdurdodau lleol i sicrhau bod digon o fannau stopio yn cael eu gweithredu a datblygu capasiti ar gyfer safleoedd teithiol.